Wrth i wyliau banc y Nadolig yn agosáu'n gyflym, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn annog trigolion i archebu unrhyw feddyginiaeth reolaidd cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod ganddynt ddigon i’w para drwy gyfnod yr ŵyl.
Mae’r Daith Brofedigaeth yn gwrs 7 wythnos sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth y Plwyf mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Sylwch y bydd pob meddygfa a mwyafrif y fferyllfeydd cymunedol ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Llongyfarchiadau i Dîm Radioleg Ymyrrol Gwent a’r Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Arloesedd MediWales 2024!
Yn ddiweddar, cynhaliodd tîm Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddigwyddiad lansio arbennig i nodi sefydlu’r garfan gyntaf o hyrwyddwyr ymchwil, gyda’r nod o greu diwylliant ymchwil mwy dylanwadol.
Llongyfarchiadau i’n holl staff anhygoel a enillodd wobrau, yn ogystal â’r rheiny a enwebwyd ac a roddwyd ar restr fer yng Ngwobrau Iechyd a Gofal De Cymru eleni.
Mae bronciolitis yn haint anadlol cyffredin, yn enwedig mewn plant ifanc, a nodweddir gan lid a thagfeydd yn llwybrau anadlu bach (broncioles) yr ysgyfaint. Mae'r cyflwr hwn yn cael ei achosi'n bennaf gan heintiau firaol fel RSV, annwyd cyffredin a ffliw.
Mae’r Gymraeg yn iaith i bawb, ac mae croeso i bawb ddefnyddio eu Cymraeg gyda ni.
Rydym yn cefnogi ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg ’ Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, sy’n rhedeg rhwng 25 Tachwedd a 9 Rhagfyr 2024 ac sy’n annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Bydd cleifion a staff ar Hafan Deg Ward yn Ysbyty Sir yn cael hwyl a sbri ym mis Rhagfyr! Mae gwirfoddolwr Ffrind i Mi, Alan, wedi neilltuo ei amser i greu calendr adfent iddynt gyfri'r dyddiau tan y Nadolig.
Ddydd Llun daeth lleisiau o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd ynghyd ym mhrif Fwyty Ysbyty Brenhinol Gwent yn ystod eu hawr ginio, i greu côr John Lewis. Gan ddefnyddio’r ffilter sydd wedi’i wneud ar gyfer John Lewis ar Tik Tok, recordiodd ein tîm Cyfathrebu fersiwn y grŵp o Sonnet. Cafodd y perfformiad gymeradwyaeth enfawr gan y rheiny oedd yn gwylio yn y bwyty, a chreodd hyn foment hyfryd a oedd yn cyfleu ysbryd y Nadolig.
Mae’r rheolwr sydd wedi gwasanaethu ers tro yn Fferyllfa Watkin-Davies yn y Betws, Casnewydd, wedi ymddeol yn 91 oed ar ôl 59 mlynedd eithriadol o wasanaeth i’r gymuned leol.
Mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Profi am HIV yng Nghymru, ac mae'r tîm Iechyd Rhywiol eisiau manteisio ar y cyfle hwn i annog pawb i brofi am HIV.
Ar Ddiwrnod Cynamseroldeb y Byd, mae Nyrs o Went a faban cynamserol wedi myfyrio ar effaith barhaol y profiad newyddenedigol a’i harweiniodd i ddod yn Nyrs Newyddenedigol ei hun.
Mae meddygon Gofal Brys ac Argyfwng Gwent yn annog trigolion lleol i feddwl yn ofalus i ble y maent yn mynd i gael cymorth y gaeaf hwn - ac maent wedi amlinellu sut y gallai dewis y gwasanaeth gofal iechyd cywir fod yn hollbwysig i gefnogi'r GIG.
Mae grŵp ysgrifennu cymunedol lleol o Gaerffili, o'r enw "Tales Around the Teapots", yn enghraifft wych o sut y gall y Pum Ffordd at Les - yn enwedig cysylltu, dysgu a rhoi - wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les.
Efallai nad prawf llygaid yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl wrth feddwl am ffyrdd o aros yn iach ac osgoi ymweliad â’r ysbyty dros gyfnod y gaeaf, ond a wyddoch chi fod profion llygaid cyffredinol yn chwarae rhan fawr wrth ganfod cyflyrau iechyd a lleihau cwympiadau?
Yn Gofrestrydd arbenigol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, dewisodd Dr. Emily Clark gael ei brechlyn ffliw y gaeaf hwn i'w hamddiffyn ei hun a'i babi, fel y gall dreulio gweddill ei beichiogrwydd yn paratoi ar gyfer dyfodiad ei phlentyn bach.
Yr wythnos hon 4 Tachwedd rydym yn dathlu wythnos Therapi Galwedigaethol ar y cyd â Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol.
Ymunwch â ni yn ein Grŵp Cefnogi Canser yr Ysgyfaint a Mesothelioma a gynhelir bob dydd Mercher cyntaf y mis, a gynhelir yn Theatr y Gyngres.