Rydym wrth ein bodd bod Canolfan Iechyd a Lles 19 Hills ar hyn o bryd yn y broses o gael ei throsglwyddo gan Kier i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Ledled Gwent rydym yn gweld nifer cynyddol o achosion ffliw yn ein cymunedau a chynnydd mewn derbyniadau i ysbytai.
Er mwyn helpu i atal haint, mae'n rhaid i'r holl staff, ymwelwyr a chleifion wisgo masgiau wyneb wrth fynd i mewn i bob ward ysbyty, adran achosion brys a lleoliad clinigol, gan gynnwys ein Hunedau Mân Anafiadau (MIU).
Mae eich iechyd am oes, nid Ionawr yn unig. Gwyliwch ein cyfres fach i helpu i adeiladu arferion iach ar gyfer 2025 nawr.
Mae meddyg yr Adran Frys wedi rhybuddio am y risgiau o fynychu Unedau Mân Anafiadau (MIUs) gyda salwch difrifol, ar ôl i gleifion sâl iawn - gan gynnwys plant - gael eu cludo i'r lle anghywir am gymorth.
Mae partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi lansio menter newydd yn Ne Cymru sy’n darparu gofal yn nes at gartref claf.
Mae cleifion dementia a’u teuluoedd yn profi buddion sylweddol o’r Therapi Ysgogi Gwybyddol (TYG) sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddarperir yng Nghlinig Cof Torfaen.
Llongyfarchiadau i'r Ward Cardioleg B2 yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, sydd wedi dod yr ail dîm yng Ngwent i ennill statws achrediad efydd i gydnabod y safon uchel o ofal y maent yn ei darparu i gleifion!
Mae offeryn newydd sy’n cefnogi gwneud penderfyniadau, yr Ap Anadlydd Datgarboneiddio ac Optimeiddio, wedi cael ei lansio i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i symleiddio presgripsiynu anadlwyr tra'n blaenoriaethu cynaliadwyedd a gofal cleifion.
Efallai nad prawf llygaid yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl wrth feddwl am ffyrdd o aros yn iach ac osgoi ymweliad â’r ysbyty dros gyfnod y gaeaf, ond a wyddoch chi fod profion llygaid cyffredinol yn chwarae rhan fawr wrth ganfod cyflyrau iechyd a lleihau cwympiadau?
Mae meddygon Gofal Brys ac Argyfwng Gwent yn annog trigolion lleol i feddwl yn ofalus i ble y maent yn mynd i gael cymorth y gaeaf hwn - ac maent wedi amlinellu sut y gallai dewis y gwasanaeth gofal iechyd cywir fod yn hollbwysig i gefnogi'r GIG.
Mae bronciolitis yn haint anadlol cyffredin, yn enwedig mewn plant ifanc, a nodweddir gan lid a thagfeydd yn llwybrau anadlu bach (broncioles) yr ysgyfaint. Mae'r cyflwr hwn yn cael ei achosi'n bennaf gan heintiau firaol fel RSV, annwyd cyffredin a ffliw.
Mae’r Daith Brofedigaeth yn gwrs 7 wythnos sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth y Plwyf mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Sylwch y bydd pob meddygfa a mwyafrif y fferyllfeydd cymunedol ar gau ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc 27 Mai 2024. Gweler isod pa fferyllfeydd fydd ar agor ar y diwrnod hwn.
Llongyfarchiadau i Dîm Radioleg Ymyrrol Gwent a’r Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Arloesedd MediWales 2024!
Mae’r Gymraeg yn iaith i bawb, ac mae croeso i bawb ddefnyddio eu Cymraeg gyda ni.
Rydym yn cefnogi ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg ’ Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, sy’n rhedeg rhwng 25 Tachwedd a 9 Rhagfyr 2024 ac sy’n annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Yn ddiweddar, cynhaliodd tîm Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddigwyddiad lansio arbennig i nodi sefydlu’r garfan gyntaf o hyrwyddwyr ymchwil, gyda’r nod o greu diwylliant ymchwil mwy dylanwadol.
Llongyfarchiadau i’n holl staff anhygoel a enillodd wobrau, yn ogystal â’r rheiny a enwebwyd ac a roddwyd ar restr fer yng Ngwobrau Iechyd a Gofal De Cymru eleni.