Mae system seinyddion gyda phad botwm gwasgu bellach ar gael wrth fynedfeydd ar draws Ysbyty Athrofaol Y Faenor ac Ysbyty Brenhinol Gwent. Bydd y seinyddion yn galluogi unrhyw un sy'n gweld rhywun yn ysmygu ar y safle/wrth fynedfeydd i wasgu'r botwm yn anhysbys, a fydd yn chwarae neges wedi'i recordio i atgoffa pobl sy'n ysmygu na chaniateir ysmygu.
Agorwyd Gardd Goffa newydd Mynydd Mawr yn Ysbyty Nevill Hall yn swyddogol ar Ddydd Sadwrn 16 Ebrill 2022.
Mae ein llinellau ffôn yn hynod o brysur ar hyn o bryd ac mae amseroedd aros galwadau yn hirach nag arfer. Gallwn eich sicrhau bod ein timau'n gweithio'n galed i ateb eich galwad cyn gynted â phosibl.
Rydym yn falch ein bod wedi gallu lleihau’r cyfyngiadau ymweld ar draws ein hysbytai. Fodd bynnag, hoffem atgoffa ein preswylwyr y mae un person yn unig y gall cleifion sy’n mynychu’r Adran Frys ddod gyda nhw. Yn anffodus, ni allwn ganiatau mwy nag un ymwelydd fesul claf oherwydd maint man aros yr Adran Frys, ac ar adegau prysur, efallai y byddwn yn gofyn i ymwelwyr aros yn rhywle arall os nag oes le iddynt.
Yn aml yn y Gwasanaeth Iechyd, mae ceisio cael mynediad at wasanaethau gofal brys yn gallu achosi tipyn o ddryswch.
Dydych chi ddim yn gwybod pa wasanaethau sydd ar agor pryd, a gan ddibynnu beth yw’ch cyflwr dydych chi ddim yn gwybod pa weithiwr gofal iechyd proffesiynol fyddai'r person gorau i chi.
Mae gwefan GIG 111 Cymru a’r rhif ffôn 111 rhad ac am ddim yn symleiddio hynny. Felly, o hyn ymlaen dim, dim ond deialu 111 fydd angen ichi ei wneud a byddwch chi’n cael eich cyfeirio at un o amrywiol opsiynau.
Dydd Mercher 6 Ebrill 2022
Rydym yn falch o allu lleihau cyfyngiadau ymweld ymhellach o 7 Ebrill 2022 ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Rydym yn parhau i gymryd agwedd ofalus oherwydd nifer yr achosion o Covid yn y Gymuned ond hefyd nifer y cleifion sydd gennym sy’n Covid-positif yn ein hysbytai.
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i agoriad swyddogol Gardd Goffa Mynydd Mawr – ein gardd goffa babanod newydd, gwell, yn Ysbyty Nevill Hall.
Cynhelir y seremoni ar Ddydd Sadwrn 16 Ebrill 2022, am 3yp, yn Ysbyty Nevill Hall.
Mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yr wythnos hon felly mae Allan Huxtable-Goy sy'n gweithio yn ein tîm Theatr yn Ysbyty Ystrad Fawr wedi rhannu ei daith ddiagnosis a ddechreuodd ddiwedd y llynedd.
Ymunwch â ni i weiddi hwrê ar Ceriann Robbins, Cogydd Ysbyty Ystrad Fawr, wrth iddi redeg ei marathon cyntaf ym Manceinion Dydd Sul!
Ddoe, Dydd Llun 28ain o Fawrth 2022, cynhaliodd y Bwrdd Iechyd y Gwobrau Cydnabod Staff cyntaf ers cyn i'r pandemig Covid-19 ddechrau.
Ar ôl ei ohirio o fis Rhagfyr 2021, cynhaliwyd y digwyddiad- lle mae cydweithwyr o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd fel arfer yn ymgynnull i ddathlu cyflawniadau ei gilydd yng Nghanolfan Christchurch yng Nghasnewydd- yn rhithiol am y tro cyntaf erioed.
Yn dilyn ein cyhoeddiad ar nos Fawrth, yr ydym yn falch o gyhoeddi ein bod bellach wedi isgyfeirio o statws 'parhad busnes'.
Diolch i holl drigolion Gwent am eich amynedd, cefnogaeth a chwestiynau. Mae ein hysbytai a’n gwasanaethau yn parhau i fod yn brysur ofnadwy heddiw a hoffem ofyn i bobl leol ein helpu drwy ddilyn y cyngor a gyhoeddwyd gennym neithiwr.
Mae’r Bwrdd Iechyd dan bwysau parhaus a ddigynsail. Er gwaethaf camau gweithredu i geisio sefydlogi ein gwasanaethau, heddiw rydym wedi gorfod datgan cyflwr o 'barhad busnes'.
Mae ein Hadran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn hynod o brysur, ac rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o ymweliadau. Felly, mae amseroedd aros i weld Meddyg, mewn rhai achosion, yn fwy na 14 awr pan nad yw cyflwr y claf yn bygwth bywyd. Ychydig iawn o welyau sydd gennym ar draws ein hysbytai i'w ddarparu ar gyfer cleifion sydd angen eu derbyni mewn i'r ysbyty.
O Dydd Llun 28 Mawrth, bydd ein tîm Brechu Torfol yn symud o Stadiwm Cwmbrân i’w lleoliad newydd ar Gampws Pont-y-pŵl Coleg Gwent.
Ddydd Mercher 23 Mawrth 2022, mae 'Diwrnod Cenedlaethol Myfyrio' a drefnwyd gan Marie Curie, yn nodi ail ben-blwydd y cloi Covid-19 cyntaf.
Dydd Iau 17eg Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a'r DHSC ymgynghoriad ar y rheoliadau a'r cod ymarfer ar gyfer gweithredu Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) .
Rydym yn falch iawn ein bod wedi cynnal ein clinig triniaeth Gynaecoleg gyntaf yn Uned Gofal Symudol Iechyd Menywod newydd Ysbyty Nevill Hall yr wythnos hon.
Mae'r clinig triniaeth newydd, sy'n perfformio gweithdrefn tynnu meinwe Myosure, yn cynnig cyfle i gleifion Gynaecoleg gael triniaeth fach o dan Anesthetig Lleol, heb gorfod cael eu derbyn i'r Ysbyty na chael llawdriniaeth fawr.
Rydym yn cysylltu â grwpiau penodol o gleifion ar ein rhestrau aros trwy neges destun ar hyn o bryd.
Sylwch, o’r wythnos yn dechrau Dydd Llun 21 Mawrth 2022, mae’n debygol y bydd oedi cyn ymateb i unrhyw negeseuon ar beiriant ateb Dermatoleg Cyffredinol, oherwydd salwch a hunan ynysu staff yn yr adran Ddermatoleg Gyffredinol.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.
Bydd canllaw newydd i helpu trigolion Gwent i ddewis y gwasanaeth gofal iechyd cywir yn cael ei ddarparu i gartrefi ar draws yr ardal o heddiw ymlaen.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi lansio’r llyfryn newydd o’r enw Gwasanaethau GIG i chi a’ch Teulu – i gynnig cyngor i drigolion yr ardal pan fo angen cymorth meddygol arnynt ond maent yn ansicr ble i fynd.